Mae PONT yn gweithio gyda thirfeddianwyr a rheolwyr stoc yng Nghymru i gyflawni dulliau rheoli pori addas i fywyd gwyllt a thirwedd Cymru. Mae PONT yn defnyddio ei arbenigedd i ddatblygu a gweithredu cynlluniau rheoli pori addas ar dirddaliadau unigol ac ar brosiectau rhanbarthol. Mae PONT hefyd yn lledaenu arfer gorau, i hwyluso pori cynaliadwy, drwy roi gwybodaeth i’r rhai y mae ei hangen arnynt. Gwneir hyn drwy gyhoeddiadau PONT a digwyddiadau yng Nghymru yn ogystal â chyhoeddiadau GAP, cyrsiau hyfforddiant, cylchlythyr, digwyddiadau yn y DU a rhwydwaith aelodaeth.
Yn olaf, mae PONT yn gweithio gydag unigolion a sefydliadau i ddylanwadu ar bolisi a llywio barnau am bolisïau heddiw ac yfory ar gyfer yr amgylchedd a chefn gwlad ehangach yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig.
PONT works with landowners and stock managers in Wales to achieve suitable grazing management for the wildlife and landscape of Wales. PONT uses its expertise to develop and implement sustainable grazing management schemes on individual landholdings and on regional scale projects.PONT also disseminates best practice to facilitate sustainable grazing, by making information available to those that need it. This is done through PONT publications and Welsh events in addition to GAP publications, training courses, newsletter, UK events and membership network.
Finally PONT works with individuals and organisations to influence policy and guide opinion on current and future policies for the environment and wider countryside within Wales and the United Kingdom.
PONT a GAP / PONT and GAP
Mae PONT yn sefydliad annibynnol sy’n gweithio yn rhan o ymbarél GAP UK. Mae PONT yn cyfrannu gwybodaeth a dealltwriaeth leol at arbenigedd ac adnoddau GAP i hyrwyddo pori cynaliadwy yng Nghymru.Pont is an independent organisation working within the umbrella of GAP UK.PONT applies local knowledge and understanding to GAP’s expertise and resources to promote sustainable grazing in Wales.
PONT a’r amgylchedd / PONT and The Environment
Yn ei waith, mae PONT yn ymdrechu i hyrwyddo hyfywdra economaidd prosiectau, drwy edrych ar gynhyrchiad a defnydd cynnyrch yn lleol a lleihau dibyniaeth ar danwydd ffosil. Mae staff PONT yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus cymaint â phosibl ac yn defnyddio ceir hybrid er mwyn defnyddio llai o danwyddau ffosil a gollwng llai o allyriadau.Datblygwyd swyddfa PONT gyda chyngor gan y Ganolfan Dechnoleg Amgen, a dewisir offer a chyflenwadau swyddfa sy’n defnyddio cymaint â phosibl o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu neu ailgylchadwy a gynhyrchir yn lleol ac yn foesegol.
In its work, PONT strives to promote the economic viability of projects, by looking at local production and consumption of products and minimisation of fossil fuel dependence. PONT staff maximise the use of public transport and use hybrid cars to reduce fossil fuel use and emissions. The PONT office was developed under advice from the Centre for Alternative Technology, while office equipment and supplies are sourced to maximise the use of locally and ethically produced recycled and recyclable materials.



