
Yn ôl ym 1999, roedd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gweld bod rhyw un o bob tri safle a oedd yn ymuno â’i gynllun amaeth-amgylchedd heb anifeiliaid pori priodol. Ar yr un pryd, roedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol leol yn chwilio am dir gosod gaeaf ychwanegol ar gyfer ei merlod mynydd Cymreig. Yr ateb oedd cydweithredu a sefydlu cynllun pori lleol, y mae sawl sefydliad arall yn cael budd ohono erbyn hyn. Ymhlith y sefydliadau hyn y mae’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt leol, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a’r Weinyddiaeth Amddiffyn, yn ogystal â chynlluniau fel Tir Gofal, Cynllun AAS a Chynefin a mentrau fel Gweundir Byw Sir Benfro.
Teulu’r ceffyl yw’r anifeiliaid mwyaf cyffredin a ddefnyddir, sy’n eiddo naill ai i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ffermwyr lleol neu’r gymuned sipsiwn. Mae taliadau ar gael i borwyr a gwylwyr stoc.
Oherwydd llwyddiant y Rhwydwaith, cafodd ei ymgorffori’n ddi-ben-draw yng ngwaith prif ffrwd y Parc, gyda’r arian craidd sy’n mynd law yn llaw ag ef.
Back in 1999, the National Park Authority was finding that around a third of sites joining its agri-environment scheme lacked appropriate grazing animals. At the same time, the local National Trust was looking for extra winter lay-back land for its Welsh mountain ponies. The solution was to join forces and set up a local grazing scheme, from which many other organizations now benefit. These include the local Wildlife Trust, Countryside Council for Wales and MOD, as well as schemes like Tir Gofal, ESA and Habitat Scheme and initiatives such as Pembrokeshire’s Living Heathlands.
Equines are the most commonly used livestock, owned by either the NT, local farmers or the gypsy community. Payments are available for graziers and stock lookers.
The success of the Network has led to it being incorporated indefinitely into the Park’s mainstream work, with the core-funding that goes with it.


